Sut mae'n gweithio
Anfonir y cylchgronau sydd ar gasetiau sain C90 allan mewn cydau arbennig o ddewis y Swyddfa Bost nad oes rhaid talu am eu cludo.
Y cyfan sydd rhaid i'r gwrandawyr ei wneud wedi iddo fo/hi wrando ar y tâp yw troi label y cyfeiriad drosodd, rhoi'r tâp yn ôl yn y cwdyn a'i anfon yn ôl at Sain Clwyd Sound.
Os yw ein gwrandawyr yn dymuno, gallant anfon eu sylwadau ar gynnwys y cylchgrawn atom drwy recordio eu sylwadau ar y caset a chlymu darn o lastig o'i gwmpas i ddangos eu bod wedi gwneud hynny cyn ei bostio'n ôl.
Gofyn am dapiau
Gall unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru'n ddall neu sydd â nam ar y golwg ac yn byw yng Ngogledd Cymru dderbyn tapiau Sain Clwyd Sound trwy ofyn i'w gweithiwr/wraig cymdeithasol gysylltu â ni ar ei ran er mwyn i ni ychwanegu'r enw at ein rhestr ddosbarthu. Ofnwn mai'r unig ffordd y medrwn ymateb i gais yw trwy'r gwasanaeth cymdeithasol.
Os nad ydych yn berchen ar recordydd caset addas gallwn roi benthyg un i chi. Eiddo Sain Clwyd Sound fydd y recordydd a fenthycir.
Yn ychwanegol gellir anfon copi o'r cylchgrawn at unrhyw gymdeithas leol sy'n ymwneud â phobi sydd â nam ar eu golwg ond I chi gysylltu naill ai trwy e bostio'r Swyddog Technegoi neu drwy ffonio'r ysgrifennydd ar 01824 780346.
Sut cawn ein hariannu
Fel elusen gofrestredig mae Sain Clwyd Sound yn hollol ddibynnol ar roddion gan fusnesau lleol, mudiadau lleol a thrwy'r cyhoedd yn cyfrannu ar ein diwrnod fflagiau blynyddol ac ambell dro drwy gynnal casgliad mewn siopau lleol.
Mae'r defnydd rhad ac am ddim a gawn o'r stiwdio recordio a chael postio'r casetiau'n rhad ac am ddim yn cadw'r costau i lawr ac yn caniatau i'r arian a godwn gael ei neilltuo'n bennaf i ddiweddaru offer ac ar ôl 3 blynedd o wasanaeth i brynu casetiau newydd.